Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (45) |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Tynnwyd cwestiynnau 4 a 9 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 11 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau.
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Dechreuodd yr eitem am 14.14.
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd y Cwestiwn Brys am 15.00.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog esbonio pam, yn dilyn argymhellion yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2004 ar Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan, na chymerwyd unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru i atal yr holl gyllid i’r corff hyd nes i welliannau sylweddol gael eu gwneud i reoli perfformiad.
3. Cynnig i benodi archwilwyr ar gyfer cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.09.
NDM4910 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 14(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn penodi RSM Tenon yn archwilwyr cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol 2011-2012; 2012-2013; a 2013-2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Menter (Mohammad Ashgar)
Dechreuodd yr eitem am 15.11.
NNDM4878 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Mohammad Asghar gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
45 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Pwynt o Drefn
Cododd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth bwynt o drefn yn gwneud cais i adolygu Cofnod y Trafodion mewn cysylltiad â sylwadau Mohammad Ashgar ynghylch perthynas y Gweinidog â’r undebau. Cytunodd y Llywydd i gyfeirio at y Cofnod a byddai’n dyfarnu ynghylch a oedd y sylwadau mewn trefn os bydd angen.
5. Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Leihau’r Risg o Strôc
Dechreuodd yr eitem am 16.01.
NDM4911 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Rhagfyr 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.58.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4912 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau cyflawni wedi’u costio’n briodol ar gyfer polisïau iechyd allweddol, fel archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl dros 50 oed a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar benwythnosau a gyda’r nos.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
34 |
57 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu “Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau cyflawni wedi’u costio’n briodol ar gyfer” a rhoi yn ei le “Yn cydnabod y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran datblygu cynlluniau ar gyfer gweithredu”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
28 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ar ôl ‘pobl dros 50 oed’ rhoi ‘, cynyddu nifer yr ymwelwyr iechyd’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
52 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r diffyg cynllunio manwl yng nghyswllt cyflawni polisïau iechyd allweddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynlluniau manwl am gwmpas, cost, cyflawni a chanlyniadau disgwyliedig polisïau iechyd allweddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4912 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran datblygu cynlluniau ar gyfer gweithredu polisïau iechyd allweddol, fel archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl dros 50 oed a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar benwythnosau a gyda’r nos.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
28 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.57.
7. Dadl Fer
NDM4909 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Cŵn Peryglus
Trafodaeth am ddulliau o wella lles cŵn a chael mwy o reolaeth drostynt.
Dechreuodd yr eitem am 18.01.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.19.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mawrth, 21 Chwefror 2012